Yr Is-bwyllgor Menter a Busnes a’r Is-bwyllgor Iechyd
a Gofal Cymdeithasol ar Y Rheoliadau Mangreoedd etc.
Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012
The Enterprise and Business Sub-Committee and the
Health and Social Care Sub-Committee on The Smoke-free
Premises etc. (Wales) (Amendment) Regulations 2012
|
|
7 Rhagfyr 2012 |
Annwyl Gyfaill
Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012
Mae Pwyllgor Menter a Busnes a Phwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi sefydlu is-bwyllgor yr un i gymryd tystiolaeth gan grwpiau â diddordeb yn y Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012. Fe fydd yr is-bwyllgorau yn uno â’i gilydd i ystyried tystiolaeth ar yr un pryd.
Mae'r diwygiad hwn yn darparu esemptiad i berfformwyr o'r gofynion di-fwg, a bydd yn weithredol: adeg perfformiad a roddir mewn cysylltiad â gwneud ffilm neu raglen deledu; pan fo uniondeb artistig y perfformiad yn ei gwneud yn briodol i’r person hwnnw ysmygu; pan nad oes aelodau o’r cyhoedd yn gwylio’r rhaglen deledu neu’r ffilm yn cael ei gwneud; a, pan nad oes plant yn bresennol yn y rhan o’r fangre lle byddai'r perfformiwr yn ysmygu.
Dyma'r cylch gorchwyl:
· Ystyried tystiolaeth gan grwpiau sydd â diddordeb ar y costau a'r buddion cymdeithasol, economaidd ac iechyd sy'n gysylltiedig â'r diwygiad arfaethedig i Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007;
· Ceisio cytuno ar gynnwys adroddiad ar y cyd a gosod yr adroddiad gerbron y Cynulliad i fod yn sail i'r ddadl ar y Rheoliadau;
Dyma'r cwestiynau yr hoffai'r Pwyllgor gael eich barn yn eu cylch:
· A oes angen y diwygiad hwn i esemptio perfformwyr o'r gofynion di-fwg at ddibenion masnachol?
· A fydd y diwygiad hwn yn cyflawni ei nod o gefnogi'r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru?
/2…
- 2-
· A oes digon o eglurder o ran yr amgylchiadau y mae'r esemptiad yn weithredol ynddynt?
· A yw'r amodau yn cynnig diogelwch digonol i berfformwyr eraill, staff cynhyrchu ac aelodau o'r cyhoedd?
· A ellir creu canlyniadau anfwriadol drwy gyflwyno'r esemptiad hwn?
· Pa ystyriaethau o ran polisi iechyd sy’n berthnasol i’r diwygiad hwn?
Gwahoddiad i gymryd rhan yn yr ymchwiliad
Mae'r ddau is-bwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, rhowch ddisgrifiad byr o rôl y sefydliad. Os ichi gyflwyno tystiolaeth adeg ymgynghoriad cyhoeddus blaenorol Llywodraeth Cymru ar y Rheoliadau, efallai yr hoffech ail-gyflwyno'r dystiolaeth honno i'r is-bwyllgorau gael ei hystyried.
Byddwn yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn nhymor y gwanwyn 2013, felly byddai'n ddefnyddiol pe gallech nodi yn eich cais a fyddech yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar, os cewch wahoddiad i wneud hynny.
Yn gyffredinol, gofynnwn i dystiolaeth gael ei chyflwyno yn ysgrifenedig oherwydd ei bod yn arferol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor ar ein gwefan, er mwyn iddi ddod yn rhan o'r cofnod cyhoeddus. Fodd bynnag, gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth ar ffurf sain neu fideo. Mae'r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, pan fydd hynny'n berthnasol, yn unol â'u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.
Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i SwyddfaDdeddfwriaeth@cymru.gov.uk.
Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Is-bwyllgorau Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Diwygio), Gwasanaeth y Pwyllgorau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn dydd Gwener 18 Ionawr 2013. Efallai na fydd yn bosibl ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
/3…
- 3-
Er gwybodaeth, mae'r Pwyllgor yn gwahodd ymatebion gan y rhai a enwyd ar y rhestr atodol. Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar petaech yn gallu anfon copi o'r llythyr hwn at unrhyw unigolion neu sefydliadau nad ydynt wedi'u cynnwys ar y rhestr, ond a hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad. Mae copi o'r llythyr hwn wedi'i roi ar wefan y Cynulliad ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.
Datgelu Gwybodaeth
Mae'n arferol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy'n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.
Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu'r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.
Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw'n addas i'w datgelu i'r cyhoedd yn eich barn chi, eich cyfrifoldeb chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.
Yn gywir
Mark Drakeford a Nick Ramsay
Cadeiryddion
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Menter a Busnes
Rhestr Ddosbarthu
Iechyd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Bwrdd Iechyd Hywel Dda
Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Bwrdd Iechyd Cwm Taf
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd
Cymdeithas Feddygol Prydain (Cymru)
Coleg Brenhinol y Ffisigwyr
Cancer Research UK
Cymdeithas Thorasig Prydain
Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint
Sefydliad Canser yr Ysgyfaint Roy Castle
Dim Smygu Cymru
ASH Cymru
Forest (Freedom Organisation for the Right to Enjoy Smoking Tobacco)
Llywodraeth leol (gorfodi)
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Diwydiant Ffilm/Teledu:
Comisiwn Sgrîn Cymru
Asiantaeth Ffilm Cymru
BBC Cymru Wales
ITV Cymru
S4C
TAC – Teledwyr Annibynnol Cymru (80 aelod)
PACT – Producers Alliance for Cinema and Television
Machine Productions Ltd
Barefoot Rascals Ltd
Fragrant Films Ltd
Ofcom
Bectu – undeb yn cynrychioli gweithwyr
Equity – cynrychioli actorion
Guild of British Camera Technicians
BAFTA Cymru
Cyfle Cyf
Ysgol Ffilm Ryngwladol Cymru, Prifysgol Casnewydd
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd
Yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth
Skillset Cymru / Academi Cyfryngau Cymru
Cyngor Celfyddydau Cymru
Cynulleidfaoedd Cymru
Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru
Talent Boom
Cwmni Pawb
Video Wales
Theatrau / sefydliadau celfyddydau perfformio
Opera Cenedlaethol Cymru
Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
Celfyddydau Gwirfoddol Cymru
Celfyddydau a Busnes Cymru
Cymdeithas Celfyddydau Perfformio Cymru
Ballet Cymru
Celfyddydau Rhyngwladol Cymru
Cyngor Prydeinig Cymru
Celfyddydau Anabledd Cymru
Cymdeithas Ddrama Cymru
Theatre in Wales
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
National Theatre Wales
Theatr Genedlaethol Cymru